Accueil • L’oulipien de l’année • Retour de Babel •
Traduction en gallois
Mae croesi ffin pob tro yn rhywbeth ychydig ysgytwol : terfyn dychmygol,
wedi ei sylweddoli gan rwystr pren digon i newid popeth, hyd at y dirwedd
ei hunan. Yr un awyr sydd yno, yr un tir, ond dydy’r ffordd ddim yn union
yr un fath. Mae ysgrif arwyddion y ffordd yn newid. Mae’r poptai ychydig
yn wahanol i’r hyn yr oeddwn ennyd yn ôl yn ei alw’n bopty ; y bara heb
fwyach yr un ffurf.